Ysbrydoli antur, atgofion am oes

Ysbrydoli antur, atgofion am oes

Ers 1966, mae Canolfannau Addysg Awyr Agored Nant B. H. a Phentre’ wedi datblygu enw da iawn am ansawdd a diogelwch mewn dysgu anturus. Rydym yn cynnig amrywiaeth lawn o weithgareddau antur cyffrous trwy gyrsiau preswyl, dydd ac ymestynnol yn Eryri. Waeth pa weithgareddau rydych yn eu dewis, byddwch yn dychwelyd adref wedi cael amser ardderchog, yn teimlo’n fwy hyderus ac yn edrych ymlaen at eich antur fawr nesaf.