Cyrsiau

Cyrsiau preswyl, dydd ac arbenigol

Cyrsiau a dylinwyd yn benodol i gwrdd ac eich anghenion

Mae ein cyrsiau yn cael eu harwain gan ein hyfforddwyr profiadol ac arbenigol.  Mae ein cyrsiau wedi ‘w profi i gael effaith ar gyrhaeddiad academaidd trwy gynyddu hyder, symbyliad, iechyd a lles a blas am ddysgu. Rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau antur a dysgu awyr agored yn ardal ysbrydoledig a gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri. Dangosir ein deilliannau cyrsiau safonol isod ond byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu cwrs sy’n cyfarfod eich nod arbennig.

ropes

Yn ogystal â’n cyrsiau preswyl poblogaidd iawn rydym hefyd yn darparu cyrsiau dydd ardderchog yn y canolfannau neu gallwn ddod atoch i’ch ysgol neu ardal i gynnal gweithgareddau.

Cysylltwch,  os hoffech i ni ddarparu diwrnod hyfforddi staff i’ch tîm neu ar gyfer darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol ar ddatblygu tiroedd eich ysgol ar gyfer dysgu awyr agored, mae gennym enw da yn yr ardal ar gyfer darpariaeth o’r fath.

_JCF0056-copy

Deilliannau’r cyrsiau:

  • Mwynhad a gweithgareddau newydd
  • Hyder a’r gallu i drin her
  • Hunan ddibyniaeth, cyfrifoldeb, gwytnwch ac annibyniaeth
  • Symbylu a blas ar ddysgu
  • Defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun a gweithgareddau cyffrous newydd
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Mwy o hunan ymwybyddiaeth, ymddygiad a’r gallu i weithio gydag eraill
  • Iechyd a lles
  • Gwerthfawrogi a deall amgylchedd a diwylliant gogledd Cymru
MENU
“Bydd disgyblion yn cofio’r dyddiau hyn am lawer o flynyddoedd - gwir addysg ar gyfer rhai plant anodd.”Gwynedd