Cyrsiau Diwrnod

Diwrnodau anturus: profiadau ysbrydoledig

Am ymweliadau dydd bendigedig dewch a grŵp i Nant BH neu Pentre neu gallwn ni ddod atoch chi

inlet

Pobl ifanc

Mae ein diwrnodau gweithgareddau anturus yn brofiad addysgol ysbrydoledig i bobl ifanc sy’n cael effaith uniongyrchol ar gyrhaeddiad yn ôl yn y dosbarth. Yn ogystal â gweithgareddau anturus poblogaidd mae gennym enw da iawn am ddarparu cyrsiau arbenigol eraill i fodloni anghenion penodol ysgolion neu wasanaethau ieuenctid gan gynnwys teithiau tywys i fyny’r Wyddfa, diwrnodau trosiannol, diwrnodau gwobrwyo, Dug Caeredin, BTec, cyrsiau TGAU, lefel A a choleg AG, gwyddoniaeth a daearyddiaeth. Cysylltwch i ddechrau trefnu eich ymweliad heddiw!

IMGP3509

Oedolion a theuluoedd

Nid dim ond i’r plant mae Nant BH a Pentre! Os ydych awydd diwrnod o weithgareddau i’r teulu neu drefnu diwrnod allan gyda ffrindiau yna cysylltwch ac fe drefnwn bethau. Peidiwch â phoeni am eich lefel o ffitrwydd neu brofiad: cysylltwch â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu cwrs sy’n berffaith ar gyfer eich grŵp.

MENU
“Cwrs rhagorol gyda hyfforddiant, cefnogaeth a llety ardderchog. Diolch am benwythnos gwych.”Tan y Marian