Preswyl

Antur preswyl!

Y profiad gorau

Mae ein cyrsiau antur a dysgu awyr agored preswyl yn wych. Byddwch yn mwynhau holl fanteision gweithgareddau addysg antur cyffrous yn ystod y dydd, gan wybod y byddwch yn dychwelyd i le cynnes a chyffyrddus gyda phrydau cartref iach a gweithgareddau gyda’r nos i wneud y mwyaf o’ch amser yma.

residential

Oni bai eich bod wedi dewis rhannu gydag ysgol arall bydd gennych ddefnydd llwyr o’r ganolfan breswyl yn ystod eich amser yno.

Y pecyn arferol yw 3 diwrnod / 2 noson ond gallwn ddarparu unrhyw gyfuniad sydd ei angen. Mae ymchwil i fanteision addysg antur preswyl yn dangos fod profiadau hwy yn cael mwy o effaith am fwy o amser.

_JCF0068-copy

Oedolion a theuluoedd

Nid dim ond i’r plant mae Nant BH a Pentre! Os ydych awydd cwrs antur preswyl hollol gofiadwy i’ch teulu a’ch ffrindiau yna cysylltwch ac fe drefnwn bethau. Peidiwch â phoeni am eich lefel o ffitrwydd neu brofiad: cysylltwch â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu cwrs sy’n berffaith ar gyfer eich grŵp.

 

MENU
“Mae’r hyfforddwyr yn gredyd i’r ganolfan – maent bob amser yn llwyddo i fod yn berffaith o ran bod yn gyfeillgar, proffesiynol a heriol.”Penmorfa