Nant BH

Croeso i Nant B.H.

Y lle perffaith ar gyfer gwir ddysgu trwy addysg antur awyr agored

nant-bh

Mae Nant B.H. yn ganolfan gyfforddus 45 gwely gydag offer da, a golygfeydd gwych o Barc Cenedlaethol Eryri, fry yng nghoedwig hardd Gwydir ger Betws y Coed. Mae llynnoedd, afonydd mynyddoedd a mwyngloddiau gerllaw ar gyfer antur gofiadwy ac ysbrydoledig gan ein gwneud yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n ysu am antur!

Mae gennym enw ardderchog am ansawdd a diogelwch ac mae ein holl gyrsiau’n cael eu darparu gan staff profiadol a chymwys yn y maes. Rydym yn cynnig yr amrywiaeth lawn o weithgareddau anturus cyffrous trwy gyrsiau preswyl, diwrnod ac ymestynnol. Pa weithgaredd bynnag a ddewiswch, rydym yn hyderus y byddwch chi a’ch grŵp, yn cael profiad ysbrydoledig, gwerthfawr, addysgol… cewch lawer o hwyl hefyd!

MENU
“Mae Nant B.H. yn werth ei bwysau mewn aur. Hoffwn gael aros yno am byth.”Deganwy