Pentre

Croeso i Pentre’

Canolfan gynnes a chroesawus ar gyfer anturiaethau

Mae Pentrellyncymer yn ganolfan gyfforddus 52 gwely gydag offer da yng nghanol cefn gwald ac ardal o harddwch naturiol. Rydym wedi ein lleoli’n ddelfrydol ger Llyn Brenig a Chronfa’r Alwen ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac amgylcheddol ffantastig. Mae Pentre’n leoliad perffaith i blant ysgol gynradd, gyda amgylchedd naturiol mwyn ar gyrion Eryri.

pentrellyncymer

Mae gennym enw ardderchog am ansawdd a diogelwch ac mae ein holl gyrsiau’n cael eu darparu gan staff profiadol a chymwys yn y maes. Rydym yn cynnig yr amrywiaeth lawn o weithgareddau anturus cyffrous trwy gyrsiau preswyl, diwrnod ac ymestynnol.

Pa weithgaredd bynnag a ddewiswch, rydym yn hyderus y byddwch chi a’ch grŵp yn cael profiad ysbrydoledig, gwerthfawr, addysgol… cewch lawer o hwyl hefyd!

MENU
“Cawsom amser llawn hwyl, heriol ac arbennig yma. Teimlai’r plant eu bod wedi profi rhywbeth unigryw, a byth eisiau i’r profiad ddod i ben.”Pen y Ffordd