Digwyddiad Gwella Conwy

Digwyddiad Gwella Conwy

CDXIFOJWIAA7cMy

Rydym yn falch iawn o gael cymryd rhan yn nigwyddiad Gwella Conwy, a anelwyd at annog plant a’u rhieni a gofalwyr i fod yn yr awyr agored yn rhyngweithio gyda’r amgylchedd a dod yn iach ac actif yn y mannau naturiol hynod sydd o’n cwmpas yng Nghonwy (ac ymhellach i ffwrdd yng Nghymru!).

DDBM-0jXsAAbHv-

Un o’n hoff weithgareddau ar gyfer y teulu yw adeiladu lloches – felly dyma ychydig gynghorion ac arweiniad i gael y mwyaf o’ch amser yn y gwyllt:

> Yn gyntaf, canfod safle – peidiwch â defnyddio rhywle sy’n eiddo preifat, neu rywle ble mae planhigion prin ac anifeiliaid yn byw y gallech eu niweidio (http://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/wildlife-and-biodiversity/find-protected-areas-of-land-and-seas/designated-sites/?lang=en)

> Edrychwch ar wahanol ffyrdd o adeiladu lloches – mae llawer o gynlluniau ar lein (rydym yn argymell cynllun ble nad oes angen mynd â dim efo chi fel carthen blasting neu gortyn – gan ei fod yn arbed pacio pethau ac yn golygu eich bod yn gwybod sut i adeiladu lloches gan ddefnyddio defnyddiau naturiol!)

> Peidiwch â defnyddio defnyddiau byw i adeiladu lloches – fel arfer mae digon o goed a phlanhigion marw ar gael i’w defnyddio.

> Os ydych yn wir ddewr – beth am gysgu ynddo am noson!

> Peidiwch â gadael olion! Mae gwir anturiaethwyr yn gwneud yn siŵr na fydd neb yn gwybod bod rhywun wedi bod yno ar ôl iddynt orffen: paciwch eich sbwriel a dymchwel eich lloches.

> Gobeithio y cewch amser ardderchog

CJA79ayWUAAGces

> Cadwch lygad ar ein tudalen gwe a’n cyfrif trydar (https://twitter.com/nwoeshttps://twitter.com/nwoes ) am fwy o wybodaeth. Mae gennym lawer o adnoddau y gallwch eu defnyddio os ydych yn ysgol neu sefydliad ieuenctid, a gallwn hefyd ddarparu pob math o brofiadau anturus ac amgylcheddol (preswyl ac ymweliad dydd) i’ch plant, neu hyfforddiant i’ch staff – mae rhyddid i chi ddod i gysylltiad!

Posted on Posted: