Canolfannau Nant BH a Phentrellyncymer – Datganiad COVID-19.

Diweddarwyd: 18 Mawrth 2020.

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgolion yng Nghymru yn cau ddydd Gwener, 20 Mawrth, byddwn hefyd yn cau’r ddwy ganolfan o’r dyddiad hwnnw. Nid ydym yn gwybod am ba mor hir fydd y cyfnod hwn yn para, ond byddwn yn ail-agor yn unol â’r ysgolion. Byddwn yn cysylltu â’r holl ysgolion a oedd wedi trefnu i ymweld â’r canolfannau rhwng nawr a thymor yr haf, i weld beth yw’r opsiynau o ran ail-drefnu cyrsiau pan fyddwn yn weithredol eto. Ni fydd staff yn y swyddfa yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau, ond byddwn yn gwirio’r cyfrif e-bost nwoes@conwy.gov.uk yn wythnosol.

 

Arhoswch yn iach, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto pan fydd yr ysgolion yn ail-agor.

 

 

Posted on Posted: