Cerdded Bryniau/Mynydda

Gyda’n hyfforddwyr profiadol byddwch yn cael diwrnod gwych yn y mynyddoedd: o gyflwyniad ysgafn i gerdded bryniau at sgramblo byrlymus ar gopaon creigiog uchel Eryri. Golygfeydd gwych, awyr iach a’r cyfle i ennill hyder a sgiliau bryniau.

Ar gyfer 14+ i oedolion rydym yn cynnig cyrsiau Sgiliau Bryniau a Mynyddoedd Mountain Training (MT) ac i oedolion y gwobrau arweinyddiaeth MT a fydd yn eich galluogi i arwain eraill yn y bryniau. Cysylltwch i wybod mwy am y rhain.

Sut i archebu

I archebu ffoniwch 01492 640735