Gwybodaeth i rieni

Hwyl, antur, cyrhaeddiad—atgofion gydol oes amhrisiadwy

Helpu eich plentyn i fod y gorau posib

Coginio cartref gwych, canolfannau cynnes a chyfforddus ac anturiaethau bywiog: mae popeth a wnawn yn Nant BH a Pentre yn canolbwyntio ar helpu eich plentyn i wneud y mwyaf o’u hamser gyda ni. Rydym wedi sefydlu enw ardderchog am ansawdd a diogelwch mewn addysg antur ers agor yn 1967.

parents

Gan weithio’n agos gydag athro neu arweinydd grŵp eich plentyn byddwn yn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth, anogaeth a hyfforddiant arbenigol i oresgyn heriau anhygoel yn y gwyllt yn Eryri. Byddant yn cael persbectif newydd ar yr hyn allant ei gyflawni a byddant yn gadael yn teimlo yn barod i wneud y mwyaf o gyfleodd ac i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol. Byddant hefyd yn cael llawer o hwyl gyda’u ffrindiau ac ni fyddant yn peidio â siarad am eu profiadau am gryn amser!

MENU
“Amser gorau fy mywyd.”Disgybl blwyddyn 6