Hyfforddiant corfforaethol a gwasanaethau eraill

Hyfforddiant corfforaethol

Hyfforddiant ysbrydoledig i’ch tîm o staff

Mae ein cyrsiau hyfforddiant corfforaethol yn boblogaidd ac yn ffordd wych o ddod a’ch staff ynghyd i gael cwrs dydd neu breswyl cyffrous ac ysbrydoledig. Rydym wedi darparu ar gyfer bob lefel o fewn sefydliadau ac mae pawb wedi dweud bod yr ysbryd tîm wedi gwella a’u bod yn gallu cydweithio yn well yn dilyn y cwrs. Peidiwch â phoeni am lefelau ffitrwydd neu brofiad – byddwn yn gweithio yn agos gyda chi i ddylunio cwrs sy’n berffaith ar gyfer eich grŵp.

corporate

Datblygu dysgu awyr agored ar dir eich ysgol a’r ardal leol

Dod a chwa o awyr iach i’ch ysgol

Rydym yn darparu cyngor, hyfforddiant ac adnoddau arbenigol i’ch helpu chi a’ch staff i gyflwyno dysgu awyr agored gwych ar dir eich ysgol a’r ardal leol. Darparwn:

  • Hyfforddiant Cardiau Dysgu Awyr Agored: cwrs ardderchog a set o adnoddau i’ch cefnogi i wneud y gorau o’ch safle ar gyfer cyfeiriannu, adeiladu tîm, clogfeini (bowldro) a theithio. Perffaith ar gyfer athrawon cyfnod allweddol 2 a 3 a gellir ei gyflwyno fel diwrnod cyfan, dau hanner diwrnod neu dair sesiwn cyfnos.
  • Mapio cyfeiriannu, gosod pwyntiau rheoli a dylunio cwrs i’w wneud yn hawdd i chi ddarparu sesiynau cyfeiriannu gwych yn yr ysgol: gwahaniaethir ar gyfer y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3
  • Hyfforddiant Cardiau Dysgu Amgylcheddol: cwrs hanner diwrnod gwych a set o gardiau adnodd i’ch helpu i gyflwyno addysg amgylcheddol cyffrous yn yr ysgol.
    I’r gwyllt: hyfforddiant sgiliau gweithgareddau antur a chyrsiau arweinyddiaeth i athrawon
  • Cyrsiau sgiliau bryniau a mynyddoedd Mountain Training, hyfforddiant ac asesu Gwobr Arweinydd Tir Isel, hyfforddiant cymorth cyntaf i arweinwyr awyr agored, datblygu sgiliau personol mewn unrhyw weithgaredd antur.

Cysylltwch heddiw i drafod eich anghenion neu i drefnu cwrs.

MENU
“Profiad newydd, yn aros yn y cof am y rhesymau cywir.”Bodnant