Diolch yn fawr!

Wrth i flwyddyn academaidd lwyddiannus arall ddod i ben, hoffem ni yng Ngwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru ddiolch i bob un sydd wedi cefnogi’r Canolfannau eleni. Mae’r Canolfannau wedi bod yn brysur iawn, gyda dros 6500 o blant a phobl ifanc yn ymweld â ni fel rhan o raglen Addysg Awyr Agored eu Hysgol.

Hoffem ni hefyd ddiolch i’n hyfforddeion, Emma Williams, Kris Wilkinson, Rik Boon a Finn Burnham am eu holl waith caled eleni, a dymunwn yn dda iddyn nhw ar eu hanturiaethau yn y dyfodol!

Diolch i’r holl ysgolion sydd wedi ein cefnogi ni eleni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Posted on Posted: