Cyrsiau
Cyrsiau preswyl, dydd ac arbenigol
Cyrsiau a dylinwyd yn benodol i gwrdd ac eich anghenion
Mae ein cyrsiau yn cael eu harwain gan ein hyfforddwyr profiadol ac arbenigol. Mae ein cyrsiau wedi ‘w profi i gael effaith ar gyrhaeddiad academaidd trwy gynyddu hyder, symbyliad, iechyd a lles a blas am ddysgu. Rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau antur a dysgu awyr agored yn ardal ysbrydoledig a gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri. Dangosir ein deilliannau cyrsiau safonol isod ond byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu cwrs sy’n cyfarfod eich nod arbennig.
Yn ogystal â’n cyrsiau preswyl poblogaidd iawn rydym hefyd yn darparu cyrsiau dydd ardderchog yn y canolfannau neu gallwn ddod atoch i’ch ysgol neu ardal i gynnal gweithgareddau.
Cysylltwch, os hoffech i ni ddarparu diwrnod hyfforddi staff i’ch tîm neu ar gyfer darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol ar ddatblygu tiroedd eich ysgol ar gyfer dysgu awyr agored, mae gennym enw da yn yr ardal ar gyfer darpariaeth o’r fath.
Deilliannau’r cyrsiau:
- Mwynhad a gweithgareddau newydd
- Hyder a’r gallu i drin her
- Hunan ddibyniaeth, cyfrifoldeb, gwytnwch ac annibyniaeth
- Symbylu a blas ar ddysgu
- Defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun a gweithgareddau cyffrous newydd
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Mwy o hunan ymwybyddiaeth, ymddygiad a’r gallu i weithio gydag eraill
- Iechyd a lles
- Gwerthfawrogi a deall amgylchedd a diwylliant gogledd Cymru