Ynghylch

Ynglŷn â Nant B.H. a Phentre’

Antur, ysbrydoliaeth, cyflawni

Group1-007

Yn Nant B.H. a Phentre’ bydd ein hyfforddwyr yn gwneud yn siŵr eich bod yn profi’r dysgu antur gorau yng ngolygfeydd godidog Eryri.

Ar ôl diwrnod llawn prysurdeb, bydd tîm y ganolfan yn darparu lle cynnes a chroesawus i ddychwelyd iddo gyda bwyd cartref ardderchog.

Mae gweithgareddau anturus yn Nant B.H. a Phentre’ yn cael effaith profedig ar hyder, symbylu, lles a blas ar ddysgu (i staff a phobl ifanc fel ei gilydd!) sy’n helpu i godi cyrhaeddiad academaidd yn y dosbarth.

run

Yn ogystal â chyrsiau preswyl ardderchog rydym hefyd yn darparu cyrsiau dydd yn y canolfannau neu yn eich ardal a gallwn eich cynghori ar sut orau i ddatblygu tiroedd eich ysgol ar gyfer dysgu anturus.

MENU
“Rydym wedi mynd heb ddim geiriau canmoliaeth am staff Nant B.H. a’r profiadau maent yn eu darparu, felly bydd yn rhaid i ddiolch cynnes iawn fod yn ddigon. Anhygoel.”Penmorfa