Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Cynhelir y wefan hon gan Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi ar www.nwoes.co.uk

Mae’r safle’n defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun tudalennau gwe, fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron, llechi electronig a ffonau symudol.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Cafodd ei dylunio i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosib. Dylai fod y testun yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech fod yn gallu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun gael ei golli oddi ar y sgrin
  • llywio mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • llywio mwyafrif y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio rhan fwyaf o’r wefan (ac eithrio pdf a mathau eraill o atodiadau) yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Nid yw’r elfennau canlynol yn hygyrch. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio i wella’r elfennau hyn o ran hygyrchedd pan fydd o fewn ein pŵer i wneud hynny, neu byddwn yn gweithio gyda’n cyflenwyr i wneud hynny:

  • mae rhai tudalennau’n cynnwys tablau, nad oes modd eu darllen gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
  • mae sawl dogfen ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
  • nid yw rhai o’n ffurflenni ar-lein yn hygyrch
  • nid yw’r cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol hygyrch
  • nid yw rhai lluniau yn cynnwys testun amgen
  • mae rhai elfennau mewn perthynas â phenawdau yn anghyson
  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun
  • mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd i’w llywio drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mae gwe-lywio mapiau rhyngweithiol yn anodd wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn canfod unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Rydym yn anelu at ymateb i adborth o fewn 10 diwrnod gwaith.

Sut i wneud cais am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os ydych angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a rhowch:

  • cyfeiriad gwe’r cynnwys
  • eich enw a chyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd arnoch ei angen, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (2) 2018 (gwefan allanol).

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Felly os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 1 Hydref 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 1 Hydref 2020.

MENU
“”