Pentre
Croeso i Pentre’
Canolfan gynnes a chroesawus ar gyfer anturiaethau
Mae Pentrellyncymer yn ganolfan gyfforddus 52 gwely gydag offer da yng nghanol cefn gwald ac ardal o harddwch naturiol. Rydym wedi ein lleoli’n ddelfrydol ger Llyn Brenig a Chronfa’r Alwen ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac amgylcheddol ffantastig. Mae Pentre’n leoliad perffaith i blant ysgol gynradd, gyda amgylchedd naturiol mwyn ar gyrion Eryri.
Mae gennym enw ardderchog am ansawdd a diogelwch ac mae ein holl gyrsiau’n cael eu darparu gan staff profiadol a chymwys yn y maes. Rydym yn cynnig yr amrywiaeth lawn o weithgareddau anturus cyffrous trwy gyrsiau preswyl, diwrnod ac ymestynnol.
Pa weithgaredd bynnag a ddewiswch, rydym yn hyderus y byddwch chi a’ch grŵp yn cael profiad ysbrydoledig, gwerthfawr, addysgol… cewch lawer o hwyl hefyd!